WordPress.org Cymraeg https://cy.wordpress.org Tue, 25 Oct 2022 15:08:20 +0000 cy hourly 1 https://wordpress.org/?v=6.2-alpha-54954 https://s.w.org/favicon.ico?2 WordPress.org Cymraeg https://cy.wordpress.org 32 32 Profi WordPress 6.1 Cymraeg https://cy.wordpress.org/2022/10/25/profi-wordpress-6-1-cymraeg/ https://cy.wordpress.org/2022/10/25/profi-wordpress-6-1-cymraeg/#respond Tue, 25 Oct 2022 15:08:20 +0000 https://cy.wordpress.org/?p=428 Bydd WordPress 6.1 yn cael ei ryddhau tua Thachwedd 1. Mae’r gwaith lleoleiddio wedi ei gwblhau i bob pwrpas ond byddai’n dda cael lygaid craff i edrych arno ac i rannu barn.

Mae’r fersiwn yma yn un datblygiadol ar hyn o bryd. Peidiwch ei osod, ei redeg na phrofi’r fersiwn yma o WordPress ar eich gwefan byw. Profwch y fersiwn diweddaraf, RC2 ar weinydd a gwefan prawf. 

Mae modd profi WordPress 6.1 RC2 a’r cyfieithiad Cymraeg mewn tair ffordd:

Dewis 1: Gosod ac agor yr ategyn WordPress Beta Tester (gan ddewis y sianel “Bleeding edge” a’r llif “Beta/RC Only”).

Dewis 2: Llwytho i lawr fersiwn RC2 (zip).

Dewis 3: Defnyddio gorchymyn WP-CLI:

wp core update –version=6.1-RC2

Os ydych yn sylwi, neu wedi sylwi yn y gorffennol, ar wallau sillafu, terminoleg anghywir neu fynegiant blêr, cysylltwch gyda manylion llawn fel ei bod hi’n hawdd i ni adnabod y mater dan sylw. Anfonwch eich sylwadau at post@meddal.com.

Y gobaith yw gwneud y fersiwn Cymraeg yn bleser i’w ddefnyddio!

]]>
https://cy.wordpress.org/2022/10/25/profi-wordpress-6-1-cymraeg/feed/ 0
(Wedi ei drwsio) WordPress Cymraeg 5.8 – problem heddiw https://cy.wordpress.org/2021/08/09/wordpress-cymraeg-5-8-problem-heddiw/ https://cy.wordpress.org/2021/08/09/wordpress-cymraeg-5-8-problem-heddiw/#respond Mon, 09 Aug 2021 12:50:36 +0000 https://cy.wordpress.org/?p=420 DIWEDDARIAD 10/8/2021: Mae popeth i weld yn iawn nawr. Rydyn ni wedi trwsio’r broblem. Mae croeso i chi anwybyddu’r isod!

O ran WordPress Cymraeg 5.8 – os ydych chi’n lawrlwytho ac yn ceisio gosod y cod ar weinydd mae problem heddiw.

Bai fi yw e – mae’n flin gyda fi! Dw i’n ceisio datrys y broblem yn y pecyn Cymraeg cyn gynted.

Yn fras dw i wedi cyfieithu darnau bychain o’r ffeil wp-config-sample.php sydd angen aros yn Saesneg. Dw i am ddiweddaru’r system canolog cyn gynted ag y bo modd. Yn y cyfamser mae’n rhaid i chi olygu’ch ffeil wp-config.php â llaw – ni fydd y broses awtomatig o greu wp-config.php yn gweithio am y tro.

Nid yw hyn yn effeithio ar wordpress.com o gwbl.

Diolch i Owen Llywelyn am dynnu fy sylw at y broblem.

]]>
https://cy.wordpress.org/2021/08/09/wordpress-cymraeg-5-8-problem-heddiw/feed/ 0
WordPress 5.7 Newydd https://cy.wordpress.org/2021/03/10/wordpress-5-7-newydd/ https://cy.wordpress.org/2021/03/10/wordpress-5-7-newydd/#respond Wed, 10 Mar 2021 08:40:36 +0000 https://cy.wordpress.org/?p=415

Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y golygydd a lliwiau newydd i’r rhyngwyeb.

Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth.

Dyma’r cyflwyniad (mae i’w weld mewn lliw, gyda lluniau drwy’r eicon WordPress ar gornel uchaf ar y chwith ar eich bwrdd gwaith):

Camwch i mewn i WordPress 5.7.

Gyda’r fersiwn newydd hon, mae WordPress yn cyflwno lliwiau ffresh. Mae’r golygydd yn eich helpu i weithio mewn llefydd na fyddai modd i chi wneud o’r blaen—o leiaf, nid heb fynd i godio neu logi gweithiwr proffesiynol. Mae’r rheolyddion rydych chi’n eu defnyddio fwyaf, fel newid maint teip, mewn mwy o leoedd—yn union le mae eu hangen nhw arnoch chi. Ac mae newidiadau mewn cynllun a ddylai fod yn hawdd, fel delweddau uchder llawn, nawr yn haws eu gwneud.


Mae’r golygydd nawr yn haws ei ddefnyddio

Addasu maint ffont mewn mwy o fannau: nawr, mae rheolyddion maint ffontiau yn union lle mae eu hangen arnoch chi yn y blociau Rhestr a Chod. Dim mwy o fynd i sgrin arall i wneud yr un newid penodol hwnnw!

Blociau ailddefnyddiadwy: mae sawl gwelliant yn gwneud blociau y mae modd eu hailddefnyddio yn fwy sefydlog ac yn haws eu defnyddio. A maen nhw nawr yn cael eu cadw’n awtomatig gyda’r cofnod pan fyddwch chi’n clicio ar y botwm Diweddaru.

Mewnosodwr llusgo a gollwng: gallwch lusgo blociau a phatrymau blociau o’r mewnosodwr i mewn i’ch cofnodion.

Gallwch wneud mwy heb ysgrifennu cod cyfaddas

Aliniad uchder llawn: a ydych chi erioed wedi bod eisiau gwneud bloc, fel y bloc Clawr, i lenwi’r ffenestr gyfan? Nawr gallwch chi wneud hynny.

Bloc botymau: nawr gallwch ddewis cynllun fertigol neu llorweddol. A gallwch osod lled botwm i ganran ragosodedig.

Bloc Eiconau Cymdeithasol: nawr gallwch newid maint yr eiconau.


Palet Lliw Rhagosodedig Symlach

Mae’r palet lliw symlach newydd hwn yn cau’r holl liwiau a arferai fod yng nghod ffynhonnell WordPress i lawr i saith lliw craidd ac ystod o 56 arlliw sy’n cwrdd â’r gymhareb cyferbyniad sy’n cael eu hargymell gan yr WCAG 2.0 AA yn erbyn gwyn neu ddu.

Mae’r lliwiau’n ymddangosiadol unffurf o olau i dywyll ym mhob ystod, sy’n golygu eu bod yn dechrau yn wyn ac yn tywyllu’r un faint gyda phob cam.

Mae gan hanner yr ystod gymhareb cyferbyniad 4.5 neu uwch yn erbyn du, ac mae’r hanner arall yn cynnal yr un cyferbyniad yn erbyn gwyn.

Dewch o hyd i’r palet newydd yng nghynllun lliw rhagosodedig WordPress, a’i ddefnyddio wrth adeiladu themâu, ategion, neu unrhyw gydrannau eraill. Am yr holl fanylion, darllenwch y nodyn dev y Palet Lliw.


O HTTP i HTTPS mewn un clic

Gan ddechrau nawr, mae newid safle o HTTP i HTTPS yn symudiad un clic. Bydd WordPress yn diweddaru URLau cronfa ddata yn awtomatig pan fyddwch chi’n newid. Dim mwy o chwilio a dyfalu!

API Robotiaid Newydd

Mae’r API Robotiaid yn caniatau i chi gynnwys cyfarwyddebau hidlo yn nhag meta’r robotiaid, ac mae’r API yn cynnwys cyfarwyddeb max-image-preview: large trwy ragosodiad. Mae’n golygu y gall beiriannau chwilio ddangos rhagolwg delweddau mwy, sy’n gallu cynyddu eich traffig (oni bai fod eich gwefan wedi’i nodi fel not-public).

Glanhad parhaus ar ôl ei ddiweddaru i jQuery 3.5.1

Am flynyddoedd bu jQuery yn helpu i wneud i bethau symud ar y sgrin mewn ffyrdd na allai’r offer sylfaenol eu gwneud—ond mae hynny’n parhau i newid, ac felly hefyd jQuery.

Yn 5.7, mae jQuery yn mynd yn fwy manwl a llai ymwthiol, bydd yna lai o negeseuon yn y consol.

Llwytho diog eich iframes

Nawr mae’n syml gadael i iframes lwytho’n ddiog. Yn rhagosodedig, bydd WordPress yn ychwanegu loading="lazy" i dagiau iframe pan mae lled ac uchder yn cael ei bennu.


Darllenwch y Field Guide am ragor o wybodaeth!

Edrychwch ar y fersiwn ddiweddaraf o’r WordPress Field Guide. Mae’n amlygu’r nodiadau datblygwr ar gyfer pob newid y byddwch angen bod yn ymwybodol ohonyn nhw. WordPress 5.7 Field Guide.


]]>
https://cy.wordpress.org/2021/03/10/wordpress-5-7-newydd/feed/ 0
Gwirydd Sillafu a Gramadeg WordPress https://cy.wordpress.org/2021/03/09/gwirydd-sillafu-a-gramadeg-wordpress/ https://cy.wordpress.org/2021/03/09/gwirydd-sillafu-a-gramadeg-wordpress/#respond Tue, 09 Mar 2021 11:58:00 +0000 https://cy.wordpress.org/?p=411 Ategyn gwirydd sillafu a gramadeg yw hwn ar gyfer cyhoeddi yn y Gymraeg ar wefannau WordPress.

Datblygwyd yr ategyn hwn gan Iwan Stanley ar ran Golwg, ar gyfer cynllun cyhoeddi cymunedol Bro360 a gwasanaeth newyddion a materion cyfoes Golwg360.

Mae’n defnyddio’r gwasanaeth Cysill Ar-lein a ddarperir gan Brifysgol Bangor, er mwyn cynnig cywiriadau a gwelliannau wrth i chi ysgrifennu cofnodion o fewn golygydd WordPress. Bydd angen i chi gofrestru i greu cyfrif am ddim er mwyn defnyddio’r gwasanaeth (mae rhagor o fanylion yn yr ategyn).

Mae hefyd yn cynnig ffordd hawdd o osod toeon bach ac acenion eraill yn eich cofnod.

Mae Golwg yn falch o rannu’r adnodd hwn gyda’r gymuned gyhoeddi Cymraeg.

Mae’r ategyn ar gael o adran Ategion WordPress eich gwefan neu o fan hyn.

]]>
https://cy.wordpress.org/2021/03/09/gwirydd-sillafu-a-gramadeg-wordpress/feed/ 0
WordPress 5.0 https://cy.wordpress.org/2018/12/06/wordpress-5-0/ https://cy.wordpress.org/2018/12/06/wordpress-5-0/#respond Thu, 06 Dec 2018 20:03:24 +0000 https://cy.wordpress.org/?p=404 Mae WordPress 5.0 nawr ar gael!

Paratowch ar gyfer newidiadau sylfaenol i olygydd WordPress – mae nawr yn gweithio ar sail blociau. Mae’r golygydd yn ddatblygiad mae WordPress wedi bod yn gweithio arno ers tro er mwyn symleiddio creu cynnwys ar gyfer eu gwefannau ond mae modd defnyddio’r golygydd clasurol o hyd…

Mae thema newydd Twenty Nineteen wedi ei greu i ddefnyddio’r blociau newydd. Hefyd, mae nifer o ategion sy’n ymestyn y dull blociau i’w cael yn adran Ategion gwefan WordPress.

Er mwyn cadw defnyddwyr profiadol yn hapus mae modd defnyddio’r Classic Editor yn lle Golygydd Gutenberg, y golygydd newydd. Rwyf hefyd wedi lleoleiddiad ategyn Disable Gutenberg, sy’n gwneud beth mae ei enw’n ei awgrymu ac yn honni cynnig mwy o nodweddion na’r Classic Editor.

Ffigyrau

I’r rhai sy’n hoff o ffigyrau, mae’r ffigyrau llwytho i lawr ar gyfer WordPress 4.9 Cymraeg fel â ganlyn:

Pecyn Ryddhau: 1,946 a Pecyn Iaith: 36,361. (Gan gofio fod yna wedi bod naw fersiwn o WP 4.9)

Ffigyrau blaenorol

4.8 973 a 13,351.

4.6 521 a 4,191

4.5 446 a 3,356

4.4 250 a 3,369

Mwynhewch a byddwch gynhyrchiol!

]]>
https://cy.wordpress.org/2018/12/06/wordpress-5-0/feed/ 0
WordPress a’r GDPR https://cy.wordpress.org/2018/05/18/wordpress-ar-gdpr/ https://cy.wordpress.org/2018/05/18/wordpress-ar-gdpr/#respond Fri, 18 May 2018 07:56:18 +0000 https://cy.wordpress.org/?p=385 Mae WordPress wedi ryddhau diweddariad i gynorthwyo defnyddwyr WordPress sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheolau newydd sy’n dod i rym ar Fai 25. ‘Mond 7 diwrnod i fynd!

Mae’r diweddariad yn cynnwys rhoi dewis ar sut mae cwcis yn trin eu data personol, creu adran newydd i wefan ddarparu ei dudalen polisi preifatrwydd (Gosodiadau>Preifatrwydd), dull o drin data personol (Offer>Allforio Data Personol, Dileu Data Personol) a rhai cywiriadau.

Mae gan y Comisiwn Ewropeaidd dudalen sy’n amlinellu’r newidiadau i’r rheolau diogelu data.

]]>
https://cy.wordpress.org/2018/05/18/wordpress-ar-gdpr/feed/ 0
Canllawiau ar gyfer WordPress 4.7 https://cy.wordpress.org/2016/12/06/canllawiau-ar-gyfer-wordpress-4-7/ https://cy.wordpress.org/2016/12/06/canllawiau-ar-gyfer-wordpress-4-7/#respond Tue, 06 Dec 2016 10:03:24 +0000 https://cy.wordpress.org/?p=337 Mae yna ganllawiau ar gyfer defnyddio nodweddion newydd WordPress 4.7 – WordPress 4.7 Field Guide -i’w cael oddi ar wefan WordPress.

]]>
https://cy.wordpress.org/2016/12/06/canllawiau-ar-gyfer-wordpress-4-7/feed/ 0
Ystadegau WordPress 4.6 https://cy.wordpress.org/2016/12/06/ystadegau-wordpress-4-6/ https://cy.wordpress.org/2016/12/06/ystadegau-wordpress-4-6/#respond Tue, 06 Dec 2016 10:00:05 +0000 https://cy.wordpress.org/?p=335

Cynnydd arall yn nifer y defnyddwyr Cymraeg WordPress.

Bydd WordPress 4.7 yn cael ei lansio tua Dydd Mawrth nesaf, ac mae’n gyfle i edrych yn ôl ar berfformiad Cymraeg WordPress 4.6. Mae’r ystadegau llwytho i lawr yn dangos 521 o becynnau ryddhau a 4,191 pecyn iaith hyd heddiw.

Roedd y ffigyrau cyfatebol am WordPress 4.6 yn 446 a 3,356, a WordPress 4.5 yn 250 a 3,369. Cynnydd arall… 🙂

Cyfanswm byd-eang WordPress 4.6 heddiw yw  28,290,823 o becynnau ryddhau a 63,291,794 pecyn iaith o gymharu â 4.5 44,121,925/73,775,408.

Os oes gennych flog neu wefan yn seiliedig ar feddalwedd nad yw’n darparu amgylchedd Cymraeg ei hiaith, beth am symud i WordPress?

]]>
https://cy.wordpress.org/2016/12/06/ystadegau-wordpress-4-6/feed/ 0
WordPress 4.6 https://cy.wordpress.org/2016/08/16/326/ https://cy.wordpress.org/2016/08/16/326/#respond Tue, 16 Aug 2016 19:15:43 +0000 https://cy.wordpress.org/?p=326 Logo WordPressMae WordPress 4.6 yn cael ei ryddhau heddiw. Cofiwch ddiweddaru!

Mae’n cynnwys diweddariadau diogelwch yn ogystal â nodweddion newydd.

 

Dyma sy’n newydd:

Diweddaru Llyfn

Peidiwch colli’ch lle, arhoswch ar yr un dudalen tra eich bod chi’n diweddaru, gosod, a dileu eich ategion a’ch themâu.

Ffontiau Cynhenid

Mae bwrdd gwaith WordPress nawr yn cymryd mantais o’r ffontiau sydd genych yn barod, fel ei fod yn llwytho’n gynt ac yn eich gwneud yn fwy cartrefol a pha bynnag ddyfais rydych yn ei defnyddio.

Gwelliannau Golygu

Gwirydd Dolenni Mewnlin

Erioed wedi creu dolen i http://www.ycylch.com/wordpress_3_4_beta/wordpress/wordpress.org ar ddamwain? Nawr mae WordPress yn gwirio’n awtomatig i wneud yn siŵr nawn aethoch chi hynny.

Adfer Cynnwys

Wrth i chi deipio, mae WordPress yn cadw eich cynnwys i’r porwr. Mae adfer cynnwys wedi ei gadw’n haws byth gyda WordPress .4.6.

Awgrymiadau Adnoddau

Mae awgrymiadau adnoddau gynorthwyo porwyr i benderfynu pa adnoddau i’w hestyn a’i rhagbrosesu. Bydd WordPress 4.6 yn eu hychwanegu’n awtomatig i’ch steiliau a’ch sgriptiau gan wneud eich gwefan yn hyd yn oed yn fwy cyflym.

Ceisiadau Cadernid

Mae’r API HTTP yn ehangu defnydd y llyfrgell Request, gan wella cefnogaeth safonol HTTP ac ychwanegu penynnau sy’n sensitif i lythrennau bach a mawr, ceisiadau HTTP paralel a chefnogaeth ar gyfer Enwai Parth Rhyngwladol.

WP_Term_Query a WP_Post_Type

Mae dosbarth newydd WP_Term_Query yn ychwanegu hyblygrwydd i wybodaeth ymholiad termau tra bod gwrthrych WP_Post_Type yn gwneud rhyngweithiad gyda mathau post yn fwy rhagfynegadwy.

Meta Registration API

Mae’r Meta Registration API wedi ei estyn i gynnal mathau, disgrifiadau a gwelededd REST API.

Cyfieithiadau ar Alw

Bydd WordPress yn gosod a defnyddio’r pecyn iaith ar gyfer eich ategion a themâu cyn gynted a’u bod yn barod o gymuned WordPress o gyfieithwyr.

Diweddariadau Llyfrgell JavaScript

Mae Masonry 3.3.2, imagesLoaded 3.2.0, MediaElement.js 2.22.0, TinyMCE 4.4.1, a Backbone.js 1.3.3 wedi eu cynnwys.

APIau’r Cyfaddaswr ar gyfer Gosod Dilysiad a Hysbysiadau

Mae gan y Gosodiadau API ar gyfer gorfodi cyfyngiadau dilysu. Hefyd, mae rheolyddion y Cyfaddaswr yn cynnal hysbysiadau sy’n cael eu defnyddio i ddangos gwallau dilysu yn lle cadw’n dawel.

Multisite, nawr yn gynt nag erioed

Mae ymholiadau gwefan cynhwysfawr a’r rhai wedi eu stori yn gwella eich profiad fel gweinyddwr rhwydwaith. Mae ychwanegu WP_Site_Query a WP_Network_Query yn gymorth i lunio ymholiadau uwch gyda llai o ymdrech.

Logo WordPress

]]>
https://cy.wordpress.org/2016/08/16/326/feed/ 0
Ystadegau WordPress 4.5 https://cy.wordpress.org/2016/08/11/ystadegau-wordpress-4-5/ https://cy.wordpress.org/2016/08/11/ystadegau-wordpress-4-5/#respond Thu, 11 Aug 2016 10:25:22 +0000 https://cy.wordpress.org/?p=321 Bydd WordPress 4.6 yn cael ei lansio Dydd Mawrth nesaf, ac mae’n gyfle i edrych yn ôl ar berfformiad Cymraeg WordPress 4.5. Mae’r ystadegau llwytho i lawr yn dangos 446 o becynnau ryddhau a 3,356 pecyn iaith hyd heddiw.

Roedd y ffigyrau cyfatebol am WordPress 4.5 yn 250 a 3,369, felly mae rhywrai wedi bod yn brysur yn llwytho i lawr y pecyn creu/diweddaru gwefan.

Cyfanswm byd-eang WordPress 4.5 heddiw yw 44,121,925 o becynnau ryddhau a 73,775,408 pecyn iaith.

]]>
https://cy.wordpress.org/2016/08/11/ystadegau-wordpress-4-5/feed/ 0